var _gaq = _gaq ||[]; _gaq.push(['_setAccount','UA-18956867-1']); _gaq.push(['_trackPageview']); (function(){ var ga = document.createElement('script'); ga.type ='text/javascript'; ga.async =true; ga.src =('https:'== document.location.protocol ?'https://ssl':'http://www')+'.google-analytics.com/ga.js'; var s = document.getElementsByTagName('script')[0]; s.parentNode.insertBefore(ga, s); })();
background image

Proffil

Ddechreuais dynnu lluniau pan wnaeth y plant gychwyn rhedeg yn oed ifanc gyda clwb athletau Menai. Ar y pryd 'roeddwn yn defnyddio hen gamera digidol Kodak. Penderfynais, tra 'roeddwn yno yn tynnu lluniau

fy mhlant, waeth i fi dynnu lluniau pawb arall yr un amser. Cyn bo hir, 'roeddwn yn rhanu'r lluniau ar y we, ac yn gyrru lluniau gwreiddiol i rhywun oedd isio copi, am ddim. Wrth dynnu lluniau yn rasus nos Fawrth Mike Blake, mi wnes i gyfarfod Al Tye o Fell Running Pictures, a mi wnaeth o ddechrau rhoid linc i luniau fi ar ei safle we o. Cyn bo hir, 'roedd Al yn fy helpu creu safle we newydd. 'Roeddwn hefyd yn trafeilio i fwy a mwy o ddigwyddiadau, gan gynnyws rasus rhedeg, beic, treatlon a nofio.
 
Ar ol ychydig o flynyddiedd, penderfynais ffurfio cwmni tynnu lluniau, SportpicturesCymru. Gyda gymorth gan Menter Mon, dderbyniais grant i brynnu offer camera newydd, ah efyd yn mynychu cyrsiau cyfrifyddu a gwerthu ar y we. Dwi'n dal i weithiollawn amser gyda cwmni trydan Manweb, fel peirianydd yn cynllunio rhywdweithiau newydd o drydan i gwmniau diwydianol a masnachol, yn ogystal a threfnu dargyfeirio rhywdwaith foltedd uchel ac isel. 'Rwy'n mwynhau fy ngwaith yn fawr  

iawn, a felly mae SportpicturesCymru yn ail swydd llawn amser!

Fy llwyddiant mwyaf hyd yn hyn ydi cyflenwi Ras y Wyddfa gyda lluniau i enillwyr y ras, a hefyd helpu rasus mynydd a thra
phell y Gymanwlad i hyrwyddo ei rasus, a wnaeth ymweld a Gogledd Cymru yn Mis Medi 2011. SportpicturesCymru ac Al Tye oedd
yn gyfrifol am dynnu lluniau swyddogol y rasus dros y penwythnos llwyddianus hefyd.
 
Yn ogystal, rwy'n ffotograffydd swyddogol i <a href="http://alwaysaimhighevents.com/" target="_blank">Alwaysimhigh</a> 
sydd yn trefnu rasus treathlon a beicio dros Gogledd Cymru.
 
 
Gwynfor James